Welcome to YoungNewport! Please sign up or login

Penwythnos Mawr Y Gaeaf CLIC

Posted by CLIC Kathryn from National - Published on 14/01/2011 at 08:58
0 comments » - Tagged as People, Technology, Work & Training, Volunteering

English version

Blwyddyn Newydd i chi i gyd! Mae’n amser unwaith eto i ddod a phawb at ei gilydd am breswyl CLIC!

Roedd y preswyl i fod i gael ei gynnal y mis hwn yn wreiddiol, ond gyda’r tywydd, poeni am drefniadau teithio a phawb yn brysur yn cael hwyl dros ŵyl y Nadolig, roedd rhaid i ni wneud y penderfyniad i symud ein preswyl yn ôl i fis Chwefror. Y tro hyn rydym yn gwneud rhywbeth gwahanol, gyda nifer o Grwpiau Golygyddol Lleol mewn lle erbyn hyn roeddem yn meddwl y byddai’n syniad grêt i wahodd cynrychiolwyr i gyfarfod ei gilydd ac aelodau o’r Grŵp Golygyddol Cenedlaethol.

Yn gwrando ar awgrymiadau o’n Preswyl Cynllunio yn fis Mai 2010 rydym yn arbed y daith hir dros Gymru i’n haelodau o Ynys Môn ac yn ymweld â nhw am newid!

Yn digwydd yng Nghanolfan Awyr Agored Ynys Môn o ddydd Gwener 18fed – dydd Sul 20fed Chwefror 2011 rydym yn gwahodd pawb i gyfarfod, rhannu syniadau a chwblhau’r newidiadau i’r Adran Gwybodaeth CLIC sydd yn cael ei rannu gyda’r holl wefannau lleol. Byddem yn ail-ysgrifennu adrannau penodol, yn gwneud fideos ac yn crynhoi eich profiadau ar faterion penodol, yn ogystal â chael ychydig o weithdai gwestai. Byddwch yn cael eich rhannu i mewn i grwpiau i weithio ar wahanol bynciau, byddwn yn sicrhau fod aelodau newydd yn cael dealltwriaeth dda o’r rhwydwaith CLIC hefyd. Bydd hefyd yr opsiwn i roi dy waith caled tuag at achrediad. Gydag amrywiaeth o weithgareddau i gadw pawb yn ymglymedig ac yn chwilfrydig bydd hefyd y sialens gemau CLIC i gystadlu ag o.

Mae’r holl drafnidiaeth bwyd a llety yn cael ei ddarparu ac mae llefydd yn gyfyng, gydag aelodau presennol yn cael blaenoriaeth a llefydd yn cael eu clustnodi i gynrychiolwyr o Grwpiau Golygyddol Lleol ond mae croeso i aelodau newydd ddod bob tro.

I gael syniad o sut beth ydy ein penwythnosau preswyl, gwylia’r fideo o’n preswyl haf hwyr gyda’r Grŵp Golygyddol Cenedlaethol blinedig iawn yn cael eu cyfweld ar y bore Sul! Os hoffet gymryd rhan, plîs cysylltwch cyn gynted â phosib drwy e-bostio kath@promo-cymru.org

Got something to say?

You must be logged in to post comments on this website.

Login or Register.

Please take a few minutes to complete this survey. It will help us find out how you use the website so we can keep improving it for you.