- Home.
- Cymraeg
Cymraeg
Ydych chi rhwng 11 a 25 oed?Ydych chi'n byw yng Nghasnewydd?
Os ateboch chi 'ydw' , mae'r wefan hon wedi cael ei chynllunio ar eich cyfer chi, i roi gwybodaeth fwy manwl i chi am y gweithgareddau, y gwasanaethau a'r cyfleoedd sydd ar gael i chi yng Nghasnewydd - eich "hawliau".
Mae Partneriaeth Pobl Ifanc Casnewydd eisiau sicrhau bod holl bobl ifanc Casnewydd yn gwybod am eu "hawliau" ac yn eu derbyn. Pwrpas y wefan hon yw dweud wrthych chi ble mae cael gafael ar yr help, y gwasanaethau a'r gweithgareddau y mae gennych chi'r hawl iddyn nhw.
Mae hefyd yn cynnwys Prosbectws o Weithgareddau neu gronfa ddata "Chwilen" sy'n llawn o bethau y gallwch chi eu gwneud. Mae hyn wedi cael ei baratoi wrth ddatblygu "Llwybrau Dysgu 14 -19"
Mae Partneriaeth Pobl Ifanc Casnewydd wedi datblygu'r wefan hon gyda phobl ifanc yng Nghasnewydd, gan weithio gyda'r Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid (dan reolaeth Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd) a ProMo Cymru, gyda nawdd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Siarad Cymraeg yma?
Rydyn ni'n gwybod ei bod hi'n anodd i bobl ifanc gael cyfle i siarad Cymraeg yng Nghasnewydd y tu allan i'r ysgol. Felly, rydyn ni wedi gofyn i'r Urdd weithio gyda phobl ifanc o'r ardal i gael gwybod mwy am eu profiadau a beth y bydden nhw'n hoffi'i weld.
Fe siaradon nhw â dros 200 o bobl ifanc a pharatoi adroddiad i ni. Fe allwch chi ddarllen yr adroddiad yma. Maen nhw hefyd wedi cynhyrchu DVD y gallwch chi edrych arni [dolen DVD]
Nawr, rydyn ni'n edrych ar beth y gallwn ni ei wneud i wella pethau. Wnewch chi ddweud wrthyn ni:
• Ydych chi'n meddwl y dylai fod mwy o gyfle i chi ymlacio a mwynhau eich hunain gyda phobl ifanc eraill sy'n siarad Cymraeg (nid dim ond yn yr ysgol)
• Fyddai hi'n well gyda chi ddarllen y wefan hon yn Gymraeg nag yn Saesneg,
• Fyddech chi'n hoffi ein helpu ni i gynllunio i wneud pethau'n well
Anfonwch e-bost aton ni i ddangos eich cefnogaeth drwy ddefnyddio adran cysylltu â ni y wefan.
Dolenni Defnyddiol
Duke of Edinburgh's Award Scheme