Croeso i YoungNewport! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Tocynnau The Saturdays

Postiwyd gan Sprout Editor o Caerdydd - Cyhoeddwyd ar 24/11/2011 am 14:06
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Cerddoriaeth, Llwyfan

  • sat

English version

Rydym ni wedi cyffroi cymaint!

Rydym wedi cael ein dwylo ar bâr o docynnau ar gyfer Taith All Fared Up The Saturdays ar 5ed Rhagfyr 2011 yn Arena Motorpoint Caerdydd.

Gall ddadlau mai The Saturdays ydy’r band genethod mwyaf poblogaidd Prydain ar y funud. Maent wedi gwerthu dros ddwy filiwn o senglau ac albymau ym Mhrydain yn unig ac efo dros 650,000 o ffans ar eu tudalen Facebook. I roi persbectif ar hynny, mae hyn yn 649,945 mwy o 'hoffi' ne thudalen ffan theSprout (felly os ti heb roi 'hoffi' i ni eto, yna gwna nawr!).

Y daith arena Brydeinig All Fired Up ydy'r un mwyaf iddynt hyd yn hyn ac mae'n addo bod yn llawn o'u caneuon poblogaidd a llawer mwy.

Felly os hoffet fynd, e-bostia 'The Saturdays' ynghyd ag enw a rhif ffôn i info@thesprout.co.uk neu yrru neges i @feedthesprout ar Twitter.

Mae un pâr o docynnau i roi i ffwrdd a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ar 30 Tachwedd.

DELWEDD: Dazzler83

Digwyddiadau – Taith Arena The Saturdays

Newyddion – The Saturdays Lift It Higher

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.