Parth Ieuenctid Mardi Gras
English version
Efallai dy fod wedi clywed yn barod drwy theSprout bod sôn am gael Parth Ieuenctid yn Mardi Gras eleni (gŵyl Lesbiaid, Hoyw, Deurywiol, Thrawsrywiol Caerdydd-Cymru, hefyd yn cael ei adnabod fel yr ŵyl LHDT)
Wel, gallem nawr gadarnhau yn swyddogol fod hyn yn mynd i ddigwydd!
Mae’r Parth Ieuenctid yn cael ei redeg gan grŵp ieuenctid Loud & Proud (LHDT) ac yn cael ei ariannu gan Wasanaeth Ieuenctid Caerdydd a Chelfyddydau & Busnes i ddod a man diogel yn yr ŵyl lle gall siarad gyda staff Loud & Proud neu linell gymorth Meic am unrhyw bryderon neu faterion.
Gall hefyd cael arddangosiadau condom gan y cynllun Cerdyn-C a darganfod ble i ymuno i’r Cerdyn-C yng Nghaerdydd i gael condomau am ddim a chyngor iechyd rhywiol dros y ddinas. Yn ogystal â hyn bydd theSprout.co.uk hefyd yn achosi bob math o ddrygioni yn y Parth Ieuenctid!
Bydd y tîm stryd ddatgysylltiedig canol y ddinas yn cerdded o amgylch y cae ar y dydd ac os oes gennych Gerdyn-C yn barod gall cael condomau ganddynt.
Bydd nifer iawn o weithgareddau yn mynd ymlaen, dyma rai:
• Gweithdai Syrcas
• Gweithdy DJ
• Arlunio Graffiti
• Creu Mwgwd
• Peintio wynebau
• Creu breichled
• Fideo Vox Pop
Y Parth Ieuenctid ydy’r cyntaf o’i fath yn Mardi Gras Caerdydd felly plîs tyrd draw i gefnogi’r digwyddiad. Os bydd y Parth yn mynd yn dda eleni yna gall fod yn rhywbeth parhaol.
Gan fod y parth hwn i bobl ifanc bydd gwaharddiad ar ddod ac alcohol i mewn i’r man.
Gwybodaeth pellach am y Mardi Gras Gwybodaeth pellach am Loud&Proud
DELWEDD: marrisaoconnor14


