Croeso i YoungNewport! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Fy Antur Gwobr Dug Caeredin

Postiwyd gan Young Newport o Casnewydd - Cyhoeddwyd ar 06/09/2010 am 15:30
0 sylwadau » - Tagiwyd fel Chwaraeon a Hamdden, Teithio, Gwirfoddoli

English version

Bron i chwe mlynedd yn ôl dywedodd rhywun wrthaf am y Wobr Dug Caeredin, a sut y gall helpu fi i gyfarfod pobl newydd yn ogystal â edrych yn dda ar fy CV i gyflogwyr potensial.

Felly, yn mis Medi 2004 es i Siop Wybodaeth Casnewydd a chyfarfod Sharron a Mike.

Cefais wybodaeth am y pethau da o wneud y Wobr a sut byddai’n helpu fi i ddatblygu sgiliau newydd a chyfarfod lot o bobl newydd sydd eisiau gwneud yr un peth a fi.

Felly, dyma fy stori.

Nid oedd llawer o bobl yn fy grwp, felly penderfynais cael dau o fy ffrindiau o’r ysgol, Aaron a Alun, i ddod. Yn sydyn roeddem yn rym arswydus na all neb gyffwrdd tra’n cwblhau’r gwobrau efydd ac arian. Ni oedd ar y blaen yn ein grwpiau cerdded bob tro, ac roedd ein llywio bron yn berffaith.

Ar adegau pan roedd rhywun arall yn penderfynnu llywio roeddem yn darganfod ein hunain ar goll neu ar lwybr cylch (dim son am enway *tagu Stephan tagu*), ond fel arall roedde yn ffashiynu ein hunain fel yr A-Team o’r wobr agored.

Wedi i ni gwblhau’r arian, a nawr gydag ychydig o wynebau newydd yn ymuno â ni, roedd hi’n amser mynd am yr aur. Nawr, fel rhan o’r wobr aur roedd rhaid cwblhau rhywbeth o’r enw prosiect preswyl, oedd yn golygu aros i ffwrdd o gartref am bum diwrnod gyda phobl ddiarth, ac yn cwblhau gweithgaredd ar y cyd.

Ymunodd y tri ohonom â grŵp o Ringland, ac ychydig o rai eraill ac aros mewn hostel yn y Bannau Brycheiniog (sef lle rydym wedi bron cerdded drosti i gyd erbyn hyn), ac roedd rhaid cwblhau cwrs mentora cyfoed.

Ar y diwrnod cyntaf roeddem yng Nghanolfan Rhaffau Langors lle bondiom fel grŵp. I gychwyn roeddem yn meddwl, “duw am helpom ni, beth ydym ni yn wneud yn fan hyn”, ond doedden nhw ddim mor ddrwg ag y tybion i gychwyn.

Dros yr ychydig ddyddiau nesaf cerddom mwy o’r Bannau a cherdded i gopa Pen y Fan a Chefn Coed. Y noson ganlynol cawsom gyfarwyddiadau i bacio tortsh, cwmpas a rhywbeth cynnes i wisgo gan ein bod yn mynd i wneud ychydig o gerdded nos mewn cae efo dim ond cwmpas i arwain ni. Cawsom ein rhannu i mewn i grwpiau bach o bedwar a’n gyrru allan ar amseroedd gwahanol.

Yna, ar y bore diwethaf, penderfynodd y grŵp bach roeddwn i, Aaron ac Alun wedi rhannu ystafell â nhw, oedd yn cynnwys Will a Russell, cael un crwydriad arall ar y Bannau, ond un oedd yn cynnwys gwylio’r haul yn codi. Felly yng nglas y dydd tra roedd gweddill y tŷ dal yn gynnes yn eu gwla, neidiom ar y bws tuag at y Storey Arms. Roedd hi’n oer ac ychydig yn niwlog ond roedd y canlyniad i gyd yn werth o.

Unwaith dychwelom a chael brecwast enwog John, paciwyd ein bagiau, cyfnewidiwyd MSN a rhifau ffôn ac yna aeth pawb ffordd eu hunain. Trefnom alldaith ymarferol yn Hydref 2009, ond ar ôl diwrnod o law trwm parhaol ac wrth edrych ar yr eira ar gopa’r bryniau  penderfynwyd na fyddai hyn yn digwydd.

O gwmpas yr amser hwn ymunodd pobl newydd gyda ni ar y lefel aur a’r rhain oedd Peter, Rob, Jodi, Aaron (un gwahanol), ei ffrind a’n arweinydd di-ofn newydd, Iggi.

Cyn hir penderfynom ein bod eisiau treialu ardaith, felly dyma ni’n mynd at y Bannau unwaith eto, ac fel cynt roedd y glaw yn boen unwaith eto ar y diwrnod cyntaf. Cyrhaeddom ein man gwersylla cyntaf a bu toriad yn y tywydd, felly llwyddom i godi’r pabelli yn eithaf sych. Cawsom noswaith braf yn cyfnewid straeon gyda Iggi ac yn cynllunio’r cerdded y diwrnod wedyn.

Unwaith eto llwyddodd y glaw rhoi diwedd ar bethau, ond y tro hwn ni fu toriad yn y glaw trwm. Penderfynodd y grŵp barhau i gerdded, yn ddewr yn erbyn y tywydd. Ar ôl ymladd ein ffordd i fyny daethom at goeden oedd yn blocio’r ffordd ond dringom drosto yn ddigon sydyn cyn dod wyneb yn wyneb gydag afon mynydd wedi ymchwyddo. Llwyddom i groesi hwn efo dim ond rhai ohonom yn cael socsan go iawn. Erbyn cyrraedd yr ail wersyll, yn amlwg braidd, cafodd y penderfyniad ei wneud i roi gorau i’r alldaith.

Ar ôl bod ar dir sych am ryw wythnos penderfynais beth fyddai ein halldaith derfynol. Roeddem wedi blino ar gerdded a bob tro roeddem yn ceisio gwneud hynny roedd y glaw yn difetha popeth, felly pam ddim trechu natur a gwneud alldaith ar ddŵr? Roedd pawb i weld yn hapus efo hyn, gan olygai na fyddai bagiau mawr ar ein cefnau a byddai’n bosib cario mwy o eitemau moethus.

Felly yn fis Ebrill 2009 aethom i chwilio am gymorth efo hyfforddiant am ein hantur ar y dŵr. Daeth hyn yn ffurf Clwb Canŵio Croesyceiliog sydd yn cyfarfod bob dydd Iau am 19:30 (7.30yh i’r rhai ohonoch sydd ddim yn defnyddio’r fformat 24 awr) yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Ac felly dyma gychwyn beth fyddai’r alldaith gorau roeddem erioed wedi cymryd rhan ynddo.

Yn fis Ebrill aeth y rhai ohonom oedd ar ôl, ac eisiau gweld y peth canŵio yma i’r pen, i Fynwy a neidio i mewn i canwiau a chaiacau ac ennill ein hasesiad dwy seren. Golygai hyn ein bod yn gallu mynd allan mewn cychod ein hunain heb angen am hyfforddwr.

Arweiniodd hyn at wythnosau cynhyrfus o geisio cynllunio llwybr a pha afonydd i ddefnyddio. Penderfynom aros efo’r rhai oedd yn gyfarwydd i ni ac yn agos at adref a phenderfynu defnyddio’r Gwy i ymarfer ac yna'r Hafren rymus. Cymerodd oriau i berffeithio’r cardiau llwybr a chael gafael ar y mapiau cywir, ond o’r diwedd roedd y dyddiadau a’r llwybrau wedi’i benderfynu.

Felly, ar 20fed Gorffennaf 2010 cychwynnom ein taith i lawr y Gwy ac unwaith eto dechreuodd fwrw galw ond roeddem yn benderfynol. Wedi’r cwbl roedd y diwrnod cyntaf yn eithaf anfaddeugar. Roedd rhaid i ni’n llythrennol gael allan o’r cychod a llusgo nhw i mewn i ddŵr dyfnach. Dymchwelodd y genethod a’r hogiau allan o’u cychod. Ymlusgodd pawb i’r gwersyll am 22:30, deg awr a hanner ar ôl cychwyn. Ond doedd yr afon a’r glaw ddim yn mynd i drechu ni. Roedd hwn yn un ymarferiad oedd ddim am gael ei ddifetha gan y glaw.

Y diwrnod canlynol penderfynom leihau’r llwybr a chychwyn ymhellach i lawr, yn gadael allan Hereford. Roedd y gwersyll nesaf yn hawdd i’w ffeindio ac roeddem allan o’r dŵr, yn codi’r babell ac yn penderfynu beth i gael i de mewn dim o amser. Roeddem hefyd wedi dod a bag o bren gyda ni a chawsom dân bach i eistedd o’i gwmpas trwy’r nos a chyfnewid straeon a jociau. Daeth yr haul allan ar y diwrnod diwethaf a doedd dim cwmwl i’w weld yn yr awyr, felly aethom at y dŵr yn sydyn yn awyddus i orffen a chyrraedd adref.

Ar ôl wythnos o ymlacio ar y 1af o Awst aethom i’r Trallwng yn barod i daclo’r Hafren y diwrnod canlynol. Arhosom mewn gardd tŷ tafarn neis iawn a chael y fraint o gysgu tu mewn. Cawsom frecwast llawn ac erbyn 10:00 roeddem ar y dŵr yn barod i gychwyn. Gyda chychod wedi llwytho cychwynnom tuag at yr anhysbys.

Ar ôl llawer o droadau cyfarfûm â choeden yn rhwystro’r ffordd, ond roeddem yn gallu gwthio’r cychod drosodd a gwasgu ein hunain o dan y goeden. Doedd hyn dim i gymharu â beth ddoth i’n cwrdd ychydig o gorneli wedyn. Roedd coeden yn rhwystro’r llwybr o’n Blaenau a dim ffordd o gael drosto nag o’i gwmpas. Felly roedd rhaid i ni symud o, felly neidiodd pawb i mewn fel bod y dŵr oer cyflym i fyny at ein canol. Cymerodd hanner awr i symud y goeden ac ar ôl i ni basio fo daeth ar ein holau a blocio ni o’r cefn yn barod i’r grŵp nesaf daclo.

Ni chychwynnodd yr ail ddiwrnod yn dda iawn i mi. Unwaith eto roeddwn i mewn yn y dŵr oer yn tywys y cychod, yn cadw’r pen i fyny i wneud yn siŵr fod y cychod ddim yn llenwi gyda dŵr yn syth. Yn anffodus roeddwn i wedi anghofio fod fy mag i ar fy nghefn ac roedd wedi’i ddifetha. Yna yn Yr Amwythig roedd rhaid dadlwytho’r cychod, llusgo nhw o’r dŵr a chario popeth tua 150 llath i’r pwynt rhoi i mewn ar yr ochr arall.

Cychwynnodd y trydydd diwrnod gyda glaw trwm yn oriau man y bore, ond roeddem yn benderfynol. Roeddem dal yn hyderus pam gyrhaeddom Ironbridge a’r dyfroedd gwyllt gradd 2/3 yn Jackfield. Fi aeth i lawr gyntaf ac ar ôl taro wal wen fawr o ddŵr roeddwn wedi troi i’r ochr ac yna tuag yn ôl i weddill y dyfroedd gwyllt, yn parhau i lawr nes i mi fynd yn sownd mewn creigiau. Doedd padlo yn gwneud dim felly defnyddiais fy nghoesau i ddod yn rhydd ac aethom yn ein blaenau i’r trydydd gwersyll.

Yn y dŵr oeddwn i ar gychwyn dydd pedwar hefyd (heb y bag tro hwn) ac roeddem wedi cychwyn erbyn 09:55. Roedd hi’n braf drwy’r dydd a phawb mewn ysbryd da yn edrych ymlaen at orffen a chael yr McDonalds oll bwysig. Bu toriad byr yn Bridgnorth i dynnu lluniau tîm gyda phawb yn gwisgo ei hetiau tîm, ac yna phweru  ymlaen trwy’r 16 cilomedr diwethaf i’r pwynt gorffen a llwytho’r cychod yn ôl ar gefn y trelar a’n stwff ôl ar y bws.

O’r diwedd roeddem ar ein ffordd adref ar ôl cwblhau ein gwobr aur. Roeddem yn teimlo mor dda, yr unig beth oedd pawb yn gallu meddwl am oedd y Bwâu Aur yna felly ar ôl ychydig o berswâd aeth y gyrrwr a ni yno a rhedodd pawb i mewn – roedd pawb yn edrych arnom, gyda phobl yn meddwl, ‘be ddiawl maen nhw’n gwisgo?’ – ond doedd dim ots gennym ni.

Felly os dydy hyn ddim wedi ysbrydoli ti i wneud y Wobr Dug Caeredin yna dwi ddim yn gwybod beth fyddai, ac os wyt ti yn llwyddo darllen hwn i gyd yna da iawn ti.

Diolch am gymryd yr amser i ddarllen hwn, a gobeithio byddet yn gwneud anturiaethau dy hun gyda’r Wobr Dug.

Martyn J Smith (Smiffy)

I wybod mwy am y Wobr Dug Caeredin.

Ymwela â Siop Wybodaeth Casnewydd

Rhywbeth i ddweud?

Rhaid bod wedi mewngofnodi i bostio sylwadau ar y wefan hon

Mewngofnodi neu Cofrestru.