Mynediad at Wybodaeth a Chanllawiau – I allu cael gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth ar ystod eang o faterion sy’n effeithio ar eich bywyd, pryd bynnag y bo arnoch ei angen.
Eich hawl chi yw gallu cyrchu at wybodaeth ac arweiniad. Addewid barhaus CLIC yw cyflenwi hyn i bobl ifanc ar draws Cymru. Bydd rhoi gwybodaeth i chi am yr holl bynciau a’r materion sy’n effeithio ar eich bywyd, mewn ffyrdd sy’n hawdd eu deall, yn eich helpu chi i wneud y penderfyniadau sydd orau i chi yn eich bywyd.
Mae gwefan CLIC yn anelu at eich helpu i ddeall yn well y ffyrdd y gallwch gyrchu at yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen ar ein gwefan, beth bynnag yw lefel eich gallu neu os oes gennych anabledd.
Wrth gofleidio technolegau newydd, rydym hefyd yn anelu at:
- sicrhau bod defnyddwyr gydag anabledd yn cael mynediad gyda’u meddalwedd neu eu setiadau cyfrifiadurol sydd yno i’w cynorthwyo
- sicrhau bod defnyddwyr yn cael eu cyfeirio i’r cyfeiriad iawn i gael gwybodaeth am sut i addasu eu cyfrifiaduron
Cael eich Clywed – Eich hawl chi i gael y cyfle i gael eich cynnwys mewn gwneud penderfyniadau, cynllunio ac adolygu gweithred a allai effeithio arnoch chi.
Byddwn yn eich cynnwys yn barhaus yn y gwaith o ddatblygu ein datganiad hygyrchedd fel y gallwch gael llais yn y modd y gallwn wneud gwybodaeth yn fwy hygyrch a dealladwy i chi. Os oes gennych unrhyw adborth neu sylwadau am sut y gallwn wneud hynny, cysylltwch â thîm gwe CLIC yn webteam@cliconline.co.uk.
Byddwn yn adolygu’r ddogfen hon yn rheolaidd i sicrhau ei bod mor gyfoes a defnyddiol â phosibl.
I gael mwy o wybodaeth am hygyrchedd ewch i “My Web, My Way - Accessibility Help” y BBC.
Mae’r safle hwn yn cydymffurfio â’r safonau gwe a ddiffiniwyd gan World Wide Web Consortium (W3C) ac yn cydymffurfio â Deddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd y DU 1995.
Caiff y cynnwys ei gyflwyno fel xHTML wedi strwythuro yn semantig. Gwahanir gwybodaeth a gyflwynir a defnydd deinamig oddi wrth y cynnwys gan ddefnyddio ‘Cascading Style Sheets’ a ffeiliau Javascript y cyfeirir atynt yn allanol.
Oherwydd hyn gellir gweld y safle:
- gyda delweddau, dalenni arddull, Javascript (neu unrhyw gyfuniad ohonynt) wedi eu hanalluogi,
- gan ddefnyddio ystod eang o ddyfeisiadau fel ffonau symudol, cyfrifiaduron llaw a darllenwyr sgrin,
- gan ddefnyddio cyfrifiadur o unrhyw oed a manyleb a all redeg porwr sy’n cydymffurfio â safonau (fel Firefox neu Internet Explorer 7),
a bydd yn parhau yn hygyrch ac yn ddealladwy.
