Siop Gwybodaeth
Siop Gwybodaeth
Gwasanaeth Gwybodaeth Ieuenctid Casnewydd
Mae’r Siop Gwybodaeth yn rhan o Wasanaeth Ieuenctid Casnewydd ac rydym yn darparu gwybodaeth, cymorth a chanllawiau i bobl ifanc 11-25 oed mewn dull cyfeillgar, anffurfiol ar ystod eang o bynciau.
- Arian
- Tai
- Gwaith a Hyfforddiant
- Addysg
- Chwaraeon a Hamdden
- Y Gyfraith a Hawliau
- Teulu a Chysylltiadau
- Iechyd
- Yr Amgylchedd
- Y Byd, Ewrop, Y DU a Chymru
I gael gwybodaeth am asiantaethau a gwasanaethau cymorth lleol ynghylch y 10 maes allweddol hyn edrychwch ar adran y Gylchfa Gwybodaeth ar wefan Casnewydd Ifanc.
Mae Gweithwyr Ieuenctid Cymwysedig yn staffio’r Siop Gwybodaeth a chynigiwn y gwasanaethau canlynol am ddim:
- Mynediad i’r Rhyngrwyd / Cyfrifiadur
- Argraffu
- Llun-gopïo
- Ffôn
- Taflenni
- Peiriant Ffacs
- Ystafell Breifat am Sgyrsiau
- Bwrdd Swyddi
- Llyfrau, Cylchgronau a Phapurau Newydd
Yn ogystal â chyfleoedd i alw i mewn i weld asiantaethau arbenigol, gan gynnwys Gwobr Agored yr Adran Addysg, Gofalwyr Ifanc, Shelter Cymru a There4U, gallwn helpu pobl ifanc i wneud CV, chwilio’r rhyngrwyd, sefydlu cyfrif e-bost, llenwi cais a llawer o bethau eraill!
Mae ein gwasanaethau yn gyfrinachol ac yn ddiduedd.
Fyddwn i ddim yn dweud wrthych chi beth i’w wneud! Rydym yn chwilio i’r dewisiadau gyda chi ac yn eich cefnogi i wneud dewis goleuedig.
Os oes arnoch angen gwybodaeth bellach am y Siop Gwybodaeth galwch i mewn am sgwrs neu cysylltwch â ni yn y cyfeiriad canlynol:
Gallwch ddod o hyd i ni yn:
133 Commercial Street,
Newport,
Gwent
NP20 1LY
Ebost: infoshop@newport.gov.uk
Ffôn: 01633 255031 / 01633 784054
Rydym ar agor ar yr adegau canlynol:
Dydd Llun: 11.00am - 5.00pm
Dydd Mawrth: 02.00pm - 5.00pm (There 4 U)
Dydd Mercher: 12.00pm - 6.00pm
Dydd Iau: 11.00am - 5.00pm
Dydd Gwener: 11.00am - 5.00pm
Dydd Sadwrn: 11.00am -4.00pm
