Croeso i YoungNewport! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Gweithio i Chi

Gweithio i Chi

PARTNERIAETH PLANT A PHOBL IFANC CASNEWYDD
Gweithio gyda’n gilydd i wella gwasanaethau i chi!

Beth yw Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Casnewydd?

Mae Partneriaeth Plant a Phobl Ifanc Casnewydd yn cynnwys yr holl brif bobl a sefydliadau sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc ac sy’n darparu gwasanaethau i chi. Rydym wedi ymrwymo i gydweithio i sicrhau eich bod yn derbyn yr holl wasanaethau y mae gennych hawl iddynt – eich “hawliau”.

Dyma ein Gweledigaeth:

Bydd Casnewydd yn Ddinas sy’n gwerthfawrogi ei phobl ifanc a lle bydd gan bob person ifanc gyfle cyfartal i gyrchu at ystod eang o wasanaethau priodol a darpariaeth o ansawdd uchel, heb ystyried rhyw, crefydd, tarddiad ethnig, unrhyw anabledd neu salwch nac unrhyw ffactorau eraill a all eu rhoi o dan anfantais.

Felly pwy yw’r Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc?

Mae’n cynnwys:

  • Yr holl ysgolion a cholegau yng Nghasnewydd (gan gynnwys Coleg Gwent a Phrifysgol Cymru Casnewydd)
  • Gwasanaeth Ieuenctid Casnewydd
  • Pobl o fewn Cyngor Dinas Casnewydd sy’n darparu rhaglenni chwaraeon, cyfleusterau hamdden, datblygu’r celfyddydau, amgueddfeydd a llyfrgelloedd
  • Gyrfaoedd Cymru Gwent
  • Sefydliadau ieuenctid fel gwobr Dug Caeredin, y Geidiaid a’r Sgowtiaid
  • Pobl o fewn Cyngor Dinas Casnewydd sydd yna i’ch helpu os oes arnoch angen mwy o gymorth arbennig, er enghraifft, cymorth i bobl ifanc sydd ag anableddau neu sy’n derbyn gofal
  • Pobl sy’n darparu gwasanaethau i bobl ifanc sy’n cael problemau gyda thai neu ddigartrefedd, gan gynnwys cyngor a gwybodaeth, cefnogaeth i chi yn eich tenantiaeth gyntaf, llety mewn hostel ac eiriolaeth deuluol
  • Pobl a all eich helpu i gadw’n iach ac yn hapus er enghraifft, pobl sy’n darparu cymorth drwy sesiynau galw i mewn There 4 U yn y Siop Gwybodaeth, cyngor am eich iechyd rhywiol, prosiectau Ysgolion Iach, cyngor am fwyta’n iach a chymorth i bobl ifanc sydd â phroblemau gyda chyffuriau neu alcohol
  • Yr heddlu lleol
  • Cyngor Cydraddoldeb Hiliol De Ddwyrain Cymru
  • Pobl sy’n gweithio yn eich cymunedau lleol drwy bob rhan o Gasnewydd ac sy’n cyflwyno ystod o weithgareddau a gwasanaethau i bobl ifanc

 

Gwrando ar yr hyn yr ydych yn ei ddweud wrthym

Mae aelodau’r Bartneriaeth yn dymuno gwrando ar beth sydd gennych i’w ddweud wrthym am y gwasanaethau a ddarparwn. I helpu gyda hyn, rydym yn cefnogi pobl ifanc i gynnal Cyngor Ieuenctid Casnewydd. Os ydych yn byw yng Nghasnewydd a rhwng 11 a 25 oed gallwch Ddweud Eich Dweud.

Cysylltwch â Chydgysylltydd PPI (YPP), Ceri George
Ffôn: 01633 232714
E-bost: ceri.george@newport.gov.uk