Croeso i YoungNewport! os gwelwch yn dda Cofrestru neu Mewngofnodi

Dweud eich dweud!

Pobl Ifanc yn Dweud eu Dweud

“Mae gan bob person ifanc yng Nghymru hawl sylfaenol i bobl ymgynghori â nhw, i gyfranogi mewn llunio penderfyniadau ac i gael eu clywed ar bob mater sy’n ymwneud â nhw neu sy’n cael effaith ar eu bywydau.”

(Ymestyn Hawliau Llywodraeth Cynulliad Cymru 2002)

Mae Cyngor Ieuenctid Casnewydd yn ymwneud â ‘Phobl Ifanc yn Lleisio Barn’. Mae’n gyfle i bobl ifanc yng Nghasnewydd gael barn ar faterion sy’n effeithio arnyn nhw, a chymryd rhan mewn llunio penderfyniadau yn lleol.

Mae syniadau a barn pobl ifanc yn wirioneddol bwysig i helpu i lunio’r dyfodol, i helpu i ddylunio gwasanaethau newydd ac i wneud i wasanaethau presennol weithio’n well. Drwy Gyngor Ieuenctid Casnewydd, gall pobl ifanc gael llais yn y gwaith hwn o lunio penderfyniadau. Gallant godi eu materion eu hunain, trafod syniadau a chyflwyno awgrymiadau i’r llunwyr penderfyniadau drwy gyfrwng y Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc.

Enw cyswllt am fwy o fanylion:

Nichola Davies
Uwch Weithiwr Gwybodaeth i Ieuenctid
133 Commercial Street
Casnewydd
NP20 1LY

nichola.davies@newport.gov.uk
infoshop@newport.gov.uk

Ff: 01633 255031 / 784054